Senedd Cymru
 Y Swyddfa Gyflwyno
  
 Adroddiad Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol
  

 

 

 

 


Manylion y Grŵp Trawsbleidiol

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Adeiladu

Aelodaeth y grŵp a deiliaid swyddi

Enw Cadeirydd y Grŵp:

Joyce Watson AS

Enwau Aelodau eraill o’r Senedd:

David Rees AS

Mike Hedges AS

Mark Isherwood AS

Delyth Jewell AS

Enw’r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:

CITB (Mark Bodger – CITB / Matt Kennedy – CITB)

Enwau aelodau allanol a sefydliadau eraill a gynrychiolir:

David Kirby, CIOB (DK)

Malcom Davies, Llywodraeth Cymru (MD)

Gareth Davies, Knox and Wells (GD)

Gareth Evans, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (GE)

Gareth Williams, CITB (GW)

Gordon Brown, Trafnidiaeth Cymru (GB)

Christopher Hare, Llywodraeth Cymru (CH)

David Humphrey, Morgan Sindall (DH)

Ifan Glyn, FMB (IG)

Julia Stevens, CITB (JS)

Keith Jones, ICE (KJ)

Ken Pearson, Bluestone Builders (KP)

Mark Hennessey, ASD Build (MH)

Matt Kennedy, CITB (MK)

Owain Jones, TRJ (OJ)

Rob Davies, CITB (RD)

Zak Clark, CITB (ZC)

Cyfarfodydd eraill y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

Cyfarfod 1

Dyddiad y Cyfarfod:

26.06.23

Yn bresennol:

Joyce Watson AS (JW) – Cadeirydd

Nitesh Patel (NP) – Staff Cymorth

Matt Kennedy (MK) - CITB

Ken Pearson (KP) - Bluestone Construction

Tom Perry (TP) - Staff Cymorth

Richard Wilson (RW) – Llywodraeth Cymru

Gareth Davies (GD) - Knox and Wells

Ed Evans (EE) - CECA

Mark Harris (MH) - HBF

Mark Hennessey (MHe) - ASD Build

Jim Mckirdle (JM) - WLGA

Gareth Evans (GE) - CWIC

David Kirkby (DK) - CIOB

Keith Jones (KJ) - ICE

Christopher Hare (CH) – Llywodraeth Cymru

Gareth Williams (GW) - CITB

Bethan Sayed (BS) - Climate Cymru

Thomas Owen (TO) – Staff Cymorth

Andrew Eldred (AE) - ECA

Ryland Doyle (RD) - Staff Cymorth

Jill Fairweather (JF) – Llywodraeth Cymru

 

Crynodeb o'r materion a drafodwyd:

Dechreuodd y cyfarfod am 13:41. Croesawodd JW bawb i'r cyfarfod a gwahoddodd MK i gyflwyno’r eitem gyntaf.

Darparodd MK drosolwg byr o adroddiad newydd y grŵp trawsbleidiol – Mewnwelediad gan y Diwydiant. Dywedodd MK fod yr adroddiad yn adlewyrchu'r ystod eang o bynciau y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi eu trafod yn y cyfarfodydd diweddaraf, ond bod y system sgiliau fel pwnc trafod wedi ei amlygu. Nod hyn oedd bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar heriau a chyfleoedd y system sgiliau gan adlewyrchu ar y mewnwelediadau a rennir gan aelodau yn ystod y cyfarfodydd.

Ychwanegodd MK na fwriedir i'r adroddiad fod yn hollgynhwysol, ond ei fod yn cynnwys rhai o'r prif bwyntiau/elfennau.

Dywedodd MK fod yr adroddiad yn edrych yn gyntaf ar y system sgiliau a'r heriau yn y sector AB o ran capasiti a’r mesurau arloesi diweddaraf mewn diwydiant. Soniodd MK am yr enghreifftiau positif o gwmnïau'n gweithio'n agos gyda’r sector AB ond bod angen cynnydd parhaus yn y maes hwn.

Dywedodd MK fod yr adroddiad yn ystyried y ffaith bod y system sgiliau yn aml yn ddryslyd i gyflogwyr ei deall, a’i bod yn anodd ymwreiddio’r system sgiliau felly. Ond dywedodd fod rhagor o gyfleoedd trwy ddysgu hyblyg/cyrsiau byr i helpu cwmnïau i ddod o hyd i'r amser i ryddhau gweithwyr er mwyn eu huwchsgilio. Soniodd MK hefyd am rôl metrigau gwerth cymdeithasol, ond dywedodd fod yr adroddiad yn awgrymu bod angen i’r trefniadau adrodd fod yn symlach.

Aeth MK ymlaen i siarad am ddenu a chadw talent – gan drafod gwerth cadw gweithwyr profiadol i fentora ac uwchsgilio newydd-ddyfodiaid. Soniodd hefyd am yr effaith y mae’r cynlluniau Rhannu Prentisiaethau wedi’i chael o ran cefnogi cyflogwyr llai i gyflogi prentis.

Crynhodd MK adran olaf yr adroddiad ynglŷn â sero net, a thynnodd sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn pwysleisio'r angen i siarad mewn iaith gyffredinol wrth drafod y targed sero net, a bod angen blaenoriaethu gwybodaeth ymhlith staff technegol a staff nad ydynt yn gweithio mewn cyd-destun technegol. Soniodd MK hefyd am yr angen i hyrwyddo rhaglenni’r Llywodraeth – megis y Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd newydd i helpu wrth ddatblygu sgiliau o fewn diwydiant.

Gorffennodd MK drwy ddweud ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn werthfawr o ran helpu’r grŵp trawsbleidiol i feddwl am sut i lunio cyfarfodydd yn y dyfodol a ffocws ei waith parhaus.

Diolchodd JW i MK am ei gyfraniad, a gofynnodd i RW roi sylwadau o safbwynt Llywodraeth Cymru.

Diolchodd RW i'r grŵp am ei wahodd i'r cyfarfod. Rhoddodd RW rai sylwadau ar yr adroddiad, gan groesawu ei ffocws cyffredinol. Dywedodd RW fod llawer o’r heriau a gyflwynwyd yn yr adroddiad, er ei fod yn ymwneud â’r amgylchedd cyfoes, wedi bodoli dros nifer o flynyddoedd. Dywedodd RW mai un o'r materion allweddol yw sut y mae pobl (a gwell amrywiaeth o bobl) yn cael eu denu i weithio mewn diwydiant. Roedd y mater allweddol arall, ym marn RW, yn ymwneud â chadw staff.

Trafododd RW yr heriau i ddiwydiant yng Nghymru, lle mae’r sector yn cynnwys busnesau bach a chanolig yn bennaf, o ran gallu fforddio’r gost a’r amser i hyfforddi ac uwchsgilio staff heb fwy o sicrwydd y bydd hyn o fantais iddynt yn y pen draw wrth allu cystadlu ar gyfer contractau a gwaith yn y dyfodol. Ychwanegodd RW mor bwysig yw gwneud taliadau prydlon i gwmnïau yn wyneb yr argyfwng costau byw.

Diolchodd JW i RW am ei sylwadau, ac agorodd y drafodaeth i sylwadau ehangach gan yr aelodau.

Croesawodd EA yr adroddiad, ond ychwanegodd fod materion eraill hefyd angen sylw. Dywedodd EA fod sicrwydd ynghylch contractau ar raddfa fawr yn rhoi hyder i gwmnïau mawr yn unig, yn hytrach nag i isgontractwyr llai sy'n debygol o wneud y rhan fwyaf o'r hyfforddiant. Ychwanegodd EA fod y diffyg pobl sy'n dod allan o’r system sgiliau yn bryder gwirioneddol o safbwynt ECA. Cododd EA bryderon hefyd ynghylch sut y gallai cyflogwyr yn ehangach gyfrannu at gymryd y camau gweithredu a amlinellir yn yr adroddiad Mewnwelediad gan y Diwydiant.

Cyflwynodd BS ei hun i’r grŵp fel aelod o Climate Cymru, a dywedodd yr hoffai’r sefydliad gymryd rhan amlycach yn cefnogi trafodaethau gyda’r diwydiant adeiladu ynglŷn â newid hinsawdd, a thynnodd sylw at y ffaith y gallai fod cyfle i ymgysylltu â chyrff anllywodraethol a’r trydydd sector ynghylch gweithredu ar y cyd er mwyn eu hysgogi i gymryd camau gweithredu unedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Croesawodd OJ sylwadau RW, a’r camau gweithredu ehangach gan Lywodraeth Cymru i geisio lliniaru pwysau chwyddiant a’r cynnydd mewn costau. Ond dywedodd y bu heriau gwirioneddol o ran cael rhai cleientiaid i roi unrhyw eglurder ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i gontractwyr i sicrhau bod gwaith sydd ar y gweill yn parhau i fod yn ddichonadwy.

Croesawodd OJ hefyd y sylwadau ar y Cynlluniau Rhannu Prentisiaeth, yn enwedig cynllun Cyfle. Ond tynnodd sylw at y ffaith, er gwaetha’r ffaith bod 80 o ymgeiswyr o ansawdd uchel yn barod ar gyfer y criw newydd a fydd yn rhan o’r cynllun, dim ond 50 o'r lleoedd hyn y byddai cyllid presennol y Llywodraeth yn talu amdanynt.

Aeth OJ ymlaen i siarad am rôl CITB o ran darparu mwy o gymorth ar lefel ranbarthol a myfyriodd ar drafodaeth gychwynnol a gafwyd gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a CWIC ynghylch darpariaeth hyfforddiant pellach ym maes sgaffaldiau a thoi.

Soniodd RW am waith yr oedd yn bod yn ymwybodol ohono yn yr adran tai ac adfywio a oedd yn gosod cymalau amrywiol mewn contractau i roi ystyriaeth i ansefydlogrwydd costau. Trafododd RW hefyd effaith dyledion a phwysigrwydd Cyfrifon Banc Prosiectau o ran cyfyngu ar y tebygolrwydd y byddai busnesau bach a chanolig yn wynebu oedi taliadau.

Soniodd OJ a y ffaith y byddai'r cleientiaid yn darparu cyllid cyfatebol i’r cymorth â chostau materol a ddarperir gan y Llywodraeth fel arfer, ond nad oedd hyn yn digwydd ar hyn o bryd a disgwylir i gontractwyr ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r baich costau. Mynegodd OJ bryderon y gallai hyn arwain at rai contractwyr yn mynd allan o fusnes.

Soniodd KP am y twf yn ei fusnes o 3 aelod o staff i 12 aelod o staff. Myfyriodd ar brofiadau o geisio gweithio o fewn contractau sector cyhoeddus, ond oherwydd profiadau negyddol tebyg fel y disgrifiwyd gan eraill, penderfynodd barhau i weithio gyda chleientiaid preifat yn unig. Ychwanegodd KP y byddai'r twf mewn gweithgarwch economaidd yng Ngorllewin Cymru yn rhoi mwy o straen ar yr angen am sgiliau.

Dywedodd KP y dylai fod gan bob person mewn diwydiant gyfrif dysgu personol y gallant fonitro eu datblygiad drwyddo. Soniodd am y ffaith bod y diwydiant gwyrdd yn datblygu mor gyflym fel bod ceisio adlewyrchu’r gwersi gofynnol o fewn y system addysg yn heriol. Roedd KP o blaid cydweithio’n agosach â chynhyrchwyr i greu cyrsiau byr.

Croesawodd GE y papur, ond tynnodd sylw at y rhan sydd ar goll yn rôl y sector Addysg Uwch – yn enwedig gyda’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu gradd-brentisiaethau ar gyfer rolau allweddol o fewn diwydiant. Roedd GE yn eilio pwyntiau OJ ynghylch gweithio gyda CWIC a'r sector yn ehangach i edrych ar symleiddio sut y gellir cynnig darpariaeth arbenigol mewn meysydd allweddol, gyda'r ffocws presennol ar faes toi a gwaith daear.

Eglurodd CH o safbwynt Llywodraeth Cymru fod y gefnogaeth i’r model rhannu prentisiaeth wedi’i ehangu i ystod o sectorau eraill ac ar draws rhychwant daearyddol ehangach ledled Cymru. Ychwanegodd CH fod yna gydbwysedd wrth fynd i’r afael â’r gwahaniaeth cyllido a sicrhau tegwch ar draws diwydiannau sy’n elwa o’r model.

Myfyriodd MHe ar bwynt OJ ynghylch disgwyl i gontractwyr ysgwyddo cost ychwanegol y gwaith, a bod hyn wedi ei yrru gan chwyddiant/pwysau o ran costau. Rhoddodd MH enghraifft lle dyfarnwyd contract cost sefydlog i ASD Build i ddarparu tai fforddiadwy, ond pan ddaeth yr amser i ddechrau datblygu 15 mis yn ddiweddarach nid oedd unrhyw gymorth ar gael i fynd i’r afael â’r costau ychwanegol a oedd wedi codi yn yr amser ers dyfarnu’r gwaith. Soniodd MHe am yr angen i ddod ag ymarferwyr o bob ochr ynghyd i ystyried sut y caiff cyfleoedd tendro eu cynnig yn wyneb y galw am fwy o gartrefi ar draws De Cymru.

Croesawodd EE yr adroddiad, ond dywedodd fod llawer o'r materion dan sylw wedi bod yn destun trafodaeth ers degawdau. Soniodd EE am y cyfleoedd i’r system sgiliau esblygu o ganlyniad i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru a’r cyfleoedd i ddiwydiant gefnogi’r ymagwedd newydd o fewn y system ysgolion.

Ychwanegodd EE fod yr ymgyrch tuag at sero net yn gyfle gwirioneddol i ddenu pobl newydd i'r diwydiant a denu pobl o wahanol gefndiroedd i gynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu.

Dywedodd EE ei bod yn ymddangos bod yna ddull trafodiadol iawn o hyd o ran contractio yn y sector cyhoeddus. Ychwanegodd EE fod gwerth cymdeithasol yn rhoi cyfle gwahanol i ddechrau gwneud pethau’n wahanol o ran meddylfryd a ffocws. Roedd EE hefyd yn argymell dull mwy rhagweithiol o ysgogi gwaith er mwyn sicrhau bod y disgwyliadau o ran yr hyn a ddarperir a chan bwy yn fwy eglur.

Gwahoddodd JW RW i roi sylwadau pellach yn seiliedig ar y drafodaeth hyd yn hyn.

Soniodd RW am yr her o liniaru’r cynnydd mewn prisiau mewn dyfarniadau contract oherwydd yr oedi rhwng dyfarnu a chytuno is-gontractau a gwaith yn dechrau cael ei wneud.

Gofynnodd KP i CH a oedd ei ddiweddariad yn golygu, wrth ehangu’r model rhannu prentisiaeth i ddiwydiannau eraill, y byddai niferoedd o fewn y diwydiant adeiladu yn cael eu gwanhau ac y byddai’r cyllid yn cael ei wasgaru’n ehangach, yn hytrach na’i gynyddu. Awgrymodd CH y dylid cael sgwrs bellach y tu allan i'r cyfarfod i egluro sut mae'r trefniant cyllido yn gweithio.

Symudodd JW y cyfarfod ymlaen i ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r grŵp yn y dyfodol.

Dechreuodd MK drwy amlinellu’r cyfle i ymgysylltu ag adroddiad Hefin David ar bontio i gyflogaeth lle mae rôl amlwg i ddiwydiant.

Awgrymodd KP y dylai sgiliau sero net barhau i fod yn rhan o drafodaeth a gwaith y grŵp trawsbleidiol o ystyried mor bwysig ydyw o hyd.

Mynegodd MH bryder ynghylch y diffyg cydnabyddiaeth o effaith economaidd adeiladu tai yng Nghymru. Tynnodd MH sylw at greu Hyb Cartrefi’r Dyfodol (Future Homes Hub) yn Lloegr ac y bydd gan Gymru ei hyb ei hun, ond y bydd hyn yn fwy cyfyngedig o ran cwmpas i ganolbwyntio ar dai fforddiadwy. Teimlai MH y gallai hyn gyfyngu ar yr ymwybyddiaeth o gyfraniad adeiladu tai preifat.

Ychwanegodd KJ y gellid edrych ar ffyrdd o leihau'r anghydbwysedd sylweddol rhwng y rhywiau o fewn maes adeiladu a pheirianneg, ac y dylai hyn fod yn flaenoriaeth ychwanegol.

Amlygodd MK y gallai fod cyfle i wneud rhywfaint o waith gyda’r grŵp trawsbleidiol ar dai – yn enwedig o ystyried pa mor gyffredin yw tai fel pwnc yn nhrafodaethau’r grŵp hyd yma.

Dywedodd MK y byddai’n anfon rhestr o bynciau posibl i’r grŵp eu hystyried a rhoi barn arnynt.

Cytunodd JW y gallai cyfarfod ar y cyd â'r grŵp trawsbleidiol ar dai fod yn ddefnyddiol, ac ychwanegodd y gallai ymgysylltu pellach â Climate Cymru yn sgil sylwadau BS fod yn werthfawr hefyd. Cytunodd JW ymhellach y byddai sesiwn gyda Hefin David ar ei adroddiad yn amserol ar ôl y toriad.

Diolchodd JW i bawb am ddod, a daeth â'r cyfarfod i ben.

Cyfarfod 2

Dyddiad y Cyfarfod:

06.11.23

Yn bresennol:

Joyce Watson AS (JW) - Cadeirydd

Nitesh Patel (NP) – Staff Cymorth

David Kirby, CIOB (DK)

Hefin David, Aelod o’r Senedd (HD)

Malcom Davies, Llywodraeth Cymru (MD)

Gareth Davies, Knox and Wells (GD)

Gareth Evans, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (GE)

Gareth Williams, CITB (GW)

Gordon Brown, Trafnidiaeth Cymru (GB)

Christopher Hare, Llywodraeth Cymru (CH)

David Humphrey, Morgan Sindall (DH)

Ifan Glyn, FMB (IG)

Julia Stevens, CITB (JS)

Keith Jones, ICE (KJ)

Ken Pearson, Bluestone Builders (KP)

Mark Hennessey, ASD Build (MH)

Matt Kennedy, CITB (MK)

Owain Jones, TRJ (OJ)

Rob Davies, CITB (RD)

Alexander, Staff Cymorth Aelod (AS)

Owen Thomas, Staff Cymorth Aelod (OT)

Zak Clark, CITB (ZC)

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Dechreuodd y cyfarfod am 12:54. Nid oedd JW yn gallu croesawu pawb i'r cyfarfod gan fod cyfarfod arall wedi gor-redeg, felly dechreuodd MK y cyfarfod gyda HD yn cyflwyno eu hadroddiad ar Bontio i Gyflogaeth.

Amlinellodd HD ei fod wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allanol i ddatblygu'r adroddiad ar drefniadau pontio o'r ysgol i gyflogaeth, o AB i gyflogaeth ac o AU i gyflogaeth, ac unrhyw faterion sy’n codi yn sgil symudiadau o’r fath.

Dywedodd HD fod yr heriau o gael tîm bach yn golygu y byddai’n “amhosib siarad â phawb” ond eu bod yn dal i deimlo bod ganddyn nhw drawstoriad da o’r diwydiant. Ond dywedodd y byddent yn y dyfodol yn siarad â darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dysgu cymunedol hefyd.

Amlinellodd HD fod amcanion yr adroddiad yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, ac felly roedd y cwmpas yn gyfyngedig o ran nifer y bobl y gallent siarad â nhw. Yr amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru oedd y dylid adolygu sut y mae darparwyr addysg yn darparu profiadau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith ac y dylid gwneud argymhellion, a’r syniad oedd edrych ar sut mae rhaglenni pontio i gyflogaeth mewn diwydiant yn gweithio.

Amlinellodd HD mai’r cyfarfod hwn oedd cyfle’r grŵp trawsbleidiol i ddweud beth oedd ar goll o’r argymhellion neu ble y gallai’r argymhellion fynd ymhellach.

Yna cyflwynodd HD argymhellion yr adroddiad (sydd ar gael i’w gweld yn Saesneg yma, neu yn Gymraeg yma)

Argymhelliad 1:

Tynnodd HD sylw at y ffaith, gyda phrofiad gwaith Gyrfa Cymru, nad oedd disgyblion yn cael profiad dilys ac ystyrlon o fyd gwaith tan “efallai addysg ôl-16”, a bod diffyg system effeithiol a diffyg trefniadau ymgysylltu rhwng cyflogwyr ac ysgolion a cholegau.

Amlinellodd HD mai’r cam cyntaf wrth helpu i wneud hyn fyddai i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyflogwyr AB a rhanddeiliaid perthnasol yn gallu ymgysylltu â dysgwyr sy’n iau nag 16 oed yn ogystal â’r rheini sydd dros yr oedran hwnnw – gan ganiatáu i ddewisiadau gael eu gwneud yn gynnar yn eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd.

Argymhelliad 2:

Dywedodd HD nad oedd problem fawr o ran mynediad i addysg gynradd, ond yn hytrach mae rhwystrau’n codi pan fo disgyblion tuag 11 oed ac felly nid yw disgyblion yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt pan ddaw’n amser iddynt wneud dewisiadau yn 16 oed.

Argymhelliad 3:

Dywedodd HD y dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) weithio gyda darparwyr addysg alwedigaethol i greu sector llai darniog a sicrhau gwelliant wrth gydgysylltu a darparu eglurder.

Argymhelliad 4:

Dywedodd HD y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cynigir profiad gwaith ystyrlon, a soniodd am yr angen i leoliadau gwaith fod ar gael i bob dysgwr 14 i 18 oed. Dywedodd HD y dylai’r cynnig hwn gynnwys profiad gwaith wedi’i deilwra ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 nad ydynt yn ymgysylltu’n llawn ag addysg ac sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Argymhelliad 5:

Amlinellodd HD y dylai lleoliadau profiad gwaith gael eu paru mor agos â phosibl â diddordebau a sgiliau dysgwyr, a bod hyn yn cael ei gysylltu â llwybr y dysgwr at gymwysterau a chyflogaeth bosibl yn y dyfodol, a’i fod hefyd yn ystyried y farchnad lafur leol, gan ddefnyddio gwybodaeth leol ac arbenigedd partneriaethau sgiliau rhanbarthol.

Argymhelliad 6:

Dywedodd HD fod angen i ysgolion a cholegau sicrhau bod y cynigion profiad gwaith y soniwyd amdanynt ar gael i'r disgyblion a’r myfyrwyr, a bod y profiadau ar gael yn gynharach.

Amlinellodd HD y gallai cyrff yn y sector cyhoeddus fel Trafnidiaeth Cymru arwain ar hyn drwy’r radd rheilffyrdd mewn peirianneg a gynigir ym Mhrifysgol De Cymru, ac unwaith y bydd cyflogwyr yn dechrau gweld gwerth y graddau hyn, efallai y byddant yn awyddus i ddarparu cyllid, cymorth a chyngor ar y math o brentisiaethau y mae angen eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd HD hefyd na ddylai cyflogwyr ysgwyddo'r baich cyllido.

Argymhelliad 7:

Dywedodd HD fod angen sgwrs am y cyllid ar gyfer gradd-brentisiaethau a'r anghyfartaledd rhwng y rheolau cyllido ar gyfer graddau arferol a gradd-brentisiaethau.

Argymhelliad 8:

Tynnodd HD sylw at yr angen am drefniadau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wrth iddynt ymgeisio am swyddi, yn enwedig pobl ifanc ag awtistiaeth sydd am fynd i gyflogaeth.

Argymhelliad 9:

Amlinellodd HD yr elfen o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg sy'n cael ei hehangu o fewn AB.

Argymhelliad 10:

Dywedodd HD y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd o fewn elfen y cwricwlwm ‘Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith’ yn cael eu cyflwyno cymaint â phosibl i gynnwys dysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith y dysgwyr mwyaf galluog a dawnus o’r cyfleoedd galwedigaethol a allai fod ar gael.

Tynnodd HD sylw at y ffaith y gallent wneud darn arall o waith ar brofiadau gwaith cymunedol ac ymarferwyr hŷn.

Amlinellodd MD y ffaith bod canfyddiad nad oedd angen fawr ddim sgiliau technolegol, os o gwbl, ar gyfer y diwydiant adeiladu a chynigiodd HD y dylid cael cyfarfod ar wahân gyda MD i drafod hyn.

Tynnodd MD sylw at y ffaith mai nhw yw'r grŵp cyntaf i ymgysylltu wrth gystadlu â sectorau eraill i wneud galwadau ar athrawon a chodi ymwybyddiaeth rhieni a gwarcheidwaid. Roedd HD yn cytuno â hynny ac ychwanegodd fod ysgolion a cholegau yn rhwystredig oherwydd bod rhieni’n gweld addysg alwedigaethol fel rhywbeth eilradd i’r llwybr academaidd.

Dywedodd MD fod pren o Gymru yn tyfu'n gyflym ond nad yw'n strwythurol gadarn, ac ychwanegodd KP y gellir tyfu pren meddal o Seland Newydd yn y DU ac y gall bara hyd at hanner cant i chwe deg mlynedd.

Tynnodd KP sylw at y ffaith pe bai prentisiaeth yn cyfrif fel pedwar TGAU y byddai'n rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc gael mynediad i brentisiaethau ar y lefel gywir.

Dywedodd KP y dylid cael cyfnod bach ar ddiwedd ysgolion iau i ystyried dyfodol yr unigolyn hwnnw wrth symud ymlaen o’r ysgol a’r hyn y byddent am symud iddo drwy gael cyflogwyr i gymryd rhan yn fwy rhagweithiol bryd hynny – ond dywedodd nad oeddent yn gwybod a fyddai hynny'n bosibl.

Amlinellodd HD mai'r rheswm dros ei bresenoldeb oedd i ofyn i'r grŵp trawsbleidiol sut y dylid datblygu hyn, ac i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad ymhlith y sawl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Diolchodd JW i'r sawl a oedd yn bresennol, ac ymddiheurodd am fod yn hwyr.

Tynnodd JW sylw at y ffaith nad yw'r diwydiant adeiladu yn ymgysylltu’n ddigon da gyda menywod a lleiafrifoedd ethnig.

Aeth JW ymlaen i ddweud pe byddai pobl yn deall y gallent ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd, y byddai'n gyrru pobl i mewn i'r sector.

Amlinellodd JW na all rhai cwmnïau bach fforddio ysgwyddo’r gost lawn a’r cyfrifoldeb o hyfforddi prentis.

Cytunodd HD â JW a dywedodd mai un broblem gyda'r rhaglen STEM yw ei bod yn cael ei dominyddu i raddau helaeth gan ddynion. Roedd HD yn gobeithio y bydd y cyfleoedd gwaith drwy Trafnidiaeth Cymru yn newid hynny.

Amlinellodd HD y gellid defnyddio gradd brentisiaethau wedi’u dylunio’n arbennig i sicrhau diwydiant mwy amrywiol o ran rhywedd ac ethnigrwydd.

Cyfeiriodd HD at ei adroddiad, a dyfynnodd gyfarwyddwr CBI Ian Price, “Mae prifysgolion yn dylunio cwrs gradd-brentisiaeth ac yna ffyrdd o recriwtio, a’r hyn a ddylai fod yn digwydd mewn gwirionedd yw bod cyflogwyr yn siarad â’r prifysgolion, yn siarad â’r colegau, fel yn achos model Trafnidiaeth Cymru, a chreu gradd-brentisiaeth sydd wedi’i chyd-gynllunio a’i hariannu ar y cyd.” Ychwanegodd fod angen i gyflogwyr weld gwerth mewn ymgysylltu â gradd-brentisiaethau wedi eu dylunio’n arbennig - ond gall maes adeiladu fod yn wahanol.

Dyfynnodd HD Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, “os oes gennych chi’r seilwaith a’r rhagdybiaeth o gyd-ddylunio, yna mae’n amlwg bod hynny’n ffafrio sefydliadau mwy o faint sydd â’r arbenigedd hyfforddi hwnnw o fewn y sefydliad, a bydd gan lawer o’r cyflogwyr mwy eu cynrychiolydd eu hunain drwy'r RSP, yn dylanwadu ar eu RSP eu hunain. Byddai’n anodd i ni (cwmnïau bach) ymgysylltu â’r miloedd o fusnesau a’u diddordebau a’u hanghenion yn yr RSP. Mae’r cysyniad o gyd-ddylunio yn un da, ond mae’n anodd iawn gwneud hyn yn hygyrch pan fyddwch chi’n gwybod mor anodd yw rhoi sylw i anghenion cyfanredol busnesau llawer llai.”

Cysylltodd HD hyn â sylw KP, a soniodd fod yr adroddiad wedi canfod bod ysgolion yn dda yn ymgysylltu â busnesau bach gan eu bod yn fwy tebygol o fod â chysylltiadau organig drwy’r gymuned leol.

Cytunodd HD â sylw JW, ac ychwanegodd fod her wrth wneud hyn, a bod angen i’r sector ddeall y cymhlethdod ac ymateb yn unol â hynny. Ychwanegodd HD fod her i wleidyddion o ran sut i gael y Llywodraeth i weithredu.

Amlinellodd GE lwyddiannau CITB yn y maes hwn, gan grybwyll bod CITB yn 2018 wedi gweithio gyda’r Ganolfan Arloesi yn Abertawe i lunio prosiect a oedd yn cyd-fynd â phob un o’r pedwar sector addysg (cynradd, uwchradd, uwch a phellach) dan arweiniad contractwr rhanbarthol. Amlinellodd y prosiect hwn rai o'r rolau a grybwyllwyd yn gynharach megis digideiddio a thechnolegau sy’n datblygu, a sut mae sgiliau lleol yn integreiddio â'r rhain.

Postiodd GE y ddolen i hyn o fewn sgwrs y cyfarfod MS Teams, ac mae’r ddolen i’w gweld yma.

Tynnodd GE sylw at y defnydd o glybiau Minecraft mewn ysgolion lle mae CITB wedi cynnal cystadlaethau lle gallai pobl ifanc gystadlu i adeiladu ysgol newydd, stadiwm, neu fathau eraill o adeiladau.

Amlinellodd GE y gellir defnyddio'r adnoddau hyn fel arfer gorau, ac y gellid eu defnyddio i ail-lansio rhaglenni gyda chymorth CITB a chyllidwyr eraill.

Diolchodd JW i GE am y sylwadau, ac ychwanegodd fod meddyliau plant yn wahanol i feddyliau oedolion, ac y gellir agor meddwl y bobl ifanc o ran sut i wneud rhywbeth yn hytrach na thrafod y theori yn unig.

Amlinellodd MD brosiect a arweinir gan Brifysgol De Cymru sy’n ystyried y cysyniad o ‘gartref iach’ sy’n edrych y tu hwnt i iechyd corfforol person gan edrych ar ei les hefyd.

Amlygodd HD mai’r rheswm dros yr adroddiad oedd creu un dull hollgwmpasog fel bod pob un o’r pedwar sector addysg yn agor eu drysau i’r syniadau hyn.

Gofynnodd MK i HD pa fewnwelediad ychwanegol y mae wedi'i gael yn yr ymchwil o ran sut i fynd i'r afael â nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Amlinellodd HD fod Engage to Change yn gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a sut y byddai hyfforddiant ar gyfer swyddi yn cynorthwyo'r bobl hynny. Soniodd HD hefyd mai’r broblem gyda gwneud hyn ym mhob man fel mater o drefn yw’r gost.

Dywedodd HD fod cynnig hyfforddiant ar gyfer swyddi i bawb yn eithriadol o anodd, ond byddai cynnig hyn mewn modd sy’n targedu plant sydd ag ADY yn gyfle da, a dywedodd fod y model yno.

Amlygodd MK y gallai rhai materion fod yn fwy dymunol nag eraill, a gofynnodd pa gymorth y gallai'r grŵp trawsbleidiol ei roi i gael dylanwad ar y diwydiant adeiladu.

Amlinellodd HD y byddai wedi hoffi gweld James Evans AS yn y cyfarfod hwn wrth iddo ofyn cwestiynau am radd-brentisiaethau yn y Senedd yr wythnos cyn y cyfarfod, ynghyd â Luke Evans AS.

Ailadroddodd HD yr hoffai gael cyfarfod gyda MD a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol cael cyfarfod gyda JS am gynnydd y radd-brentisiaeth mewn adeiladu, sut y bydd yn gweithio a sut mae’n gweithio.

Dywedodd HD hefyd yr hoffai drafod darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith a'r hyn y maen nhw’n ei wneud i wella'r profiad y tu hwnt i amcanion ei adroddiad. Dywedodd HD ei fod yn ystyried awgrymu i Lywodraeth Cymru y dylai ef wneud hynny fel ychwanegiad at yr adroddiad gan ei fod wedi cael adborth nad ystyriwyd darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, ond ar y pryd, roeddent y tu allan i gylch gorchwyl yr adroddiad.

Amlygodd HD sut yr hoffai hefyd edrych ar ddysgu cymunedol – gan gysylltu hyn yn ôl â chwestiwn cyntaf MK, ac ychwanegodd fod nifer o lwybrau eraill yr hoffai eu cymryd i’r perwyl hwn.

Dywedodd HD yr hoffai gael datganiad gan y Gweinidog cyn haf 2024 i weld a yw’r syniadau hyn wedi’u datblygu a gweld beth sydd wedi’i wneud.

Awgrymodd JW pan fydd gan HD y diweddariad nesaf ar hyn, y dylid ei ledaenu'n ehangach fel y gall pobl o grwpiau gwleidyddol eraill lobïo yn ogystal â'r grŵp trawsbleidiol hwn.

Ymatebodd HD drwy ddweud bod ganddo gynlluniau i siarad â James Evans AS a Luke Fletcher AS, a dywedodd ei fod yn hapus i gwrdd ag unrhyw un arall i drafod yr adroddiad.

Dywedodd HD fod adeiladu a pheirianneg yn mynd law yn llaw. Ar y pwynt hwn, amlygodd MD mai cynnyrch o'r enw Bitco yw'r datrysiad diweddaraf ym maes toi ar gyfer paneli UV, a bod Trafnidiaeth Cymru bellach yn ei dreialu o ran cynnal a chadw.

Yna, dywedodd KP y bydd yn fwy effeithiol na'r llechi ffotofoltäig, ac y gellir eu gosod ar doeau fflat a phaneli fertigol. Dywedodd KP hefyd fod hyn yn datblygu yn gyflym, ac y bydd angen sesiynau hyfforddi byr o hanner diwrnod i'w ddeall.

Dywedodd KP fod angen gwneud mwy o asesu ar y safle yn hytrach nag yn y coleg gan y byddai'r disgybl yn treulio diwrnod ychwanegol yr wythnos ar y safle i gael mwy o weithlu.

Bu'n rhaid i HD adael y cyfarfod yn gynnar i baratoi ar gyfer cyfarfod arall.

Diolchodd JW i HD am fod yn bresennol, a gwahoddodd HD yn ôl i gyfarfod arall, pe bai'n awyddus i wneud hynny.

Yna siaradodd JW am y sefyllfa ar ddiwedd cyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol, gan ddweud na fydd y mater yn cael ei ollwng nes bydd canlyniad boddhaol.

Dywedodd JW y byddai'n trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf, ac efallai'n cael rhywun o'r sector celfyddydau i ymuno.

Dywedodd GE y gallai fod werth ymchwilio i ysbyty Felindre gan fod rhai cysyniadau gwahanol o ran dylunio a dulliau adeiladu yn cael eu defnyddio yno, gan gynnwys dulliau bioffilig.

Soniodd GE y gallai roi MK mewn cysylltiad â'r bobl iawn i drafod hyn ymhellach, os byddai angen.

Dywedodd JW pan fydd pobl yn meddwl am adeiladu nad ydynt yn meddwl am blymio, plastro, gosod brics a gwaith coed. Mynegodd JW ddiddordeb hefyd yn y paneli toi newydd.

Diolchodd JW i'r grŵp am fod yn bresennol, a gofynnodd a oedd unrhyw faterion eraill i’w trafod - nid oedd unrhyw faterion eraill.

Daeth JW â'r cyfarfod i ben.

Cyfarfod 3

Dyddiad y Cyfarfod:

Click or tap here to enter text.

Yn bresennol:

Click or tap here to enter text.

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Click or tap here to enter text.

Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae'r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

[dylid cynnwys enwau lobïwyr/sefydliadau/elusennau fel a ganlyn, e.e.]

Enw’r Sefydliad:

Click or tap here to enter text.

Enw’r Grŵp:

Click or tap here to enter text.


Enw’r Sefydliad:

Click or tap here to enter text.

Enw’r Grŵp:

Click or tap here to enter text.


 

Datganiad Ariannol Blynyddol

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Grŵp Trawsbleidiol ar Adeiladu

Dyddiad:

15/12/23

Enw’r Cadeirydd:

Joyce Watson AS

Enw’r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:

CITB

Teitl

Disgrifiad

Swm

Treuliau’r Grŵp

Dim

£0.00

Costau nwyddau

Dim nwyddau wedi eu prynu

£0.00

Buddion y mae’r grŵp neu unigolion yn eu derbyn gan gyrff allanol

Dim buddion wedi eu derbyn

£0.00

Unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall.

Dim cymorth ariannol wedi ei roi

£0.00

Cyfanswm

£0.00

Gwasanaethau a ddarperir i'r Grŵp, megis lletygarwch.

Pob lletygarwch y talwyd amdano [cynnwys enw'r grŵp/sefydliad].

Dyddiad

Enw a disgrifiad y darparwr

Costau

N/A

N/A

£0.00

 

 

 

Cyfanswm

£0.00